Cytundeb cysylltiadau rhyng-sefydliadol rhwng Cynulliad Cenedlaethol Cymru a Llywodraeth Cymru

 

Cefndir y Cytundeb hwn

1. Ym mis Chwefror 2018, cyhoeddodd y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol ei adroddiad, Llywodraethiant yn y DU ar ôl gadael yr Undeb Ewropeaidd. Nododd Argymhelliad 9 yr adroddiad hwnnw:

Rydym yn argymell bod Llywodraeth Cymru yn llunio cytundeb ynghylch cysylltiadau rhynglywodraethol gyda'r pwyllgor hwn, er mwyn cefnogi’r gwaith craffu ar weithgarwch Llywodraeth Cymru yn y maes hwn.

2. Yn ystod dadl yn y Cyfarfod Llawn ar yr adroddiad ar 28 Chwefror 2018, dywedodd y Cwnsler Cyffredinol fod Llywodraeth Cymru yn fodlon trafod â’r Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol gynnwys cytundeb ar gysylltiadau rhynglywodraethol. Ychwanegodd y byddai Llywodraeth Cymru, wrth wneud hynny, am ystyried y cytundeb rhwng Senedd yr Alban a Llywodraeth yr Alban.

3. Aeth Ysgrifennydd Cabinet Llywodraeth Cymru dros Gyllid i gyfarfodydd y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol ar 23 a 30 Ebrill 2018, lle trafodwyd cysylltiadau rhynglywodraethol yn y dyfodol ac adroddiad y Pwyllgor ar lywodraethiant yn y DU ar ôl gadael yr Undeb Ewropeaidd.

4. Ar 30 Ebrill 2018, ailadroddodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid barodrwydd Llywodraeth Cymru i gydweithio â’r Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol i ddatblygu'r trefniadau y bydd eu hangen ar ran y ddeddfwrfa i oruchwylio'r camau a fydd yn deillio o'r Cytundeb Rhynglywodraethol ar Fil yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) a Sefydlu Fframweithiau Cyffredin.

5. Yn dilyn cyfnewid gohebiaeth rhwng Cadeirydd Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol (25 Mai 2018) ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid (4 Mehefin 2018), cytunwyd y dylid symud ymlaen â'r gwaith hwn yn ffurfiol.

Diben y Cytundeb

6. Mae'r Cytundeb Ysgrifenedig hwn yn cynrychioli’r sefyllfa y cytunwyd arni gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru a Llywodraeth Cymru ynghylch y wybodaeth y bydd Llywodraeth Cymru, lle bo hynny'n briodol (gweler paragraff 7 isod), yn ei darparu i'r Cynulliad Cenedlaethol mewn perthynas â chyfranogiad Llywodraeth Cymru mewn cyfarfodydd rhynglywodraethol ffurfiol ar lefel weinidogol,  concordatau, cytundebau a memoranda cyd-ddealltwriaeth.   

7. Wrth ddod i’r Cytundeb hwn, mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod diben sylfaenol y Cynulliad Cenedlaethol sef craffu ar weithgarwch Llywodraeth Cymru o fewn strwythurau rhynglywodraethol ffurfiol.  Mae'r Cynulliad Cenedlaethol hefyd yn cydnabod ac yn parchu'r angen am drafodaeth rynglywodraethol gyfrinachol rhwng y gweinyddiaethau o fewn y Deyrnas Unedig, er enghraifft, mewn sefyllfaoedd lle ceir trafodaethau ar faterion penodol. 

8. Mae'r Cytundeb hwn yn cydnabod cymhlethdod cynyddol y setliad datganoli a goblygiadau hyn o ran trafodaethau priodol rhwng Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU. O ganlyniad, mae'n cydnabod ymhellach y bydd y gyd-ddibyniaeth rhwng cymwyseddau datganoledig a chymwyseddau a gadwyd yn ôl yn cael ei rheoli'n bennaf mewn cysylltiadau rhynglywodraethol. Mae'r Cytundeb hwn yn ceisio sicrhau bod egwyddorion atebolrwydd Llywodraeth Cymru i Gynulliad Cenedlaethol Cymru a thryloywder mewn perthynas â'r perthnasoedd hyn yn cael eu cynnwys yn y dulliau rhynglywodraethol diwygiedig.

9. Mae'r Cytundeb hwn yn sefydlu tair egwyddor a fydd yn llywodraethu'r berthynas rhwng Cynulliad Cenedlaethol Cymru a Llywodraeth Cymru mewn perthynas â chysylltiadau rhynglywodraethol.  Y rhain yw:

§  Tryloywder

§  Atebolrwydd

§  Parch a chydnabyddiaeth o’r rhan y mae trafodaethau cyfrinachol yn eu chwarae rhwng llywodraethau, yn enwedig wrth ddatblygu polisi.  

Cwmpas y Cytundeb hwn

10. Mae'r Cytundeb hwn yn berthnasol i gyfranogiad Gweinidogion Cymru mewn strwythurau rhynglywodraethol ffurfiol.   Mae hyn yn golygu, yn ymarferol, drafodaethau a chytundebau ynghylch, neu’n gysylltiedig â’r Cyd-bwyllgor Gweinidogion (yn ei holl fformatau gweithredu); y Fforwm Gweinidogol ar y berthynas rhwng y DU a'r UE yn y dyfodol; y Cyngor Prydeinig Gwyddelig a fforymau rhyng-weinidogaethol amlochrog a dwyochrog sefydlog neu ad hoc eraill tebyg sy'n bodoli neu a all gael eu sefydlu. Nid yw'r Cytundeb hwn yn cynnwys ymgysylltiad arall rhwng y llywodraethau, er y bydd yr Adroddiad Blynyddol (y cyfeirir ato ym mharagraff 17) yn gwneud sylwadau ar ystod a graddfa gweithgarwch o’r fath.  

11. Bwriad y Cytundeb hwn yw cefnogi gallu'r Cynulliad Cenedlaethol i graffu ar weithgarwch Llywodraeth Cymru ac i ddwyn Gweinidogion Cymru i gyfrif yn yr arena rynglywodraethol yn unig.  Nid yw’r Cytundeb mewn unrhyw fodd yn gosod rhwymedigaethau ar weinyddiaethau a deddfwrfeydd eraill sy'n gysylltiedig â chysylltiadau rhynglywodraethol a'r grwpiau a'r cytundebau a ddisgrifir yma. Yn unol â'r egwyddor o barch tuag at gyfrinachedd trafodaethau rhwng gweinyddiaethau, mae'r Cytundeb yn cydnabod bod rhyddhau manylion trafodaethau sy'n cynnwys partneriaid rhynglywodraethol yn uniongyrchol yn amodol ar eu caniatâd hwy.

12. Yn amodol ar yr uchod, mae Llywodraeth Cymru yn cytuno i ddarparu, i Bwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol y Cynulliad Cenedlaethol ac unrhyw bwyllgor perthnasol arall o'r Cynulliad Cenedlaethol, cyn belled ag y mae'n ymarferol, rybudd ysgrifenedig ymlaen llaw o leiaf fis cyn y cyfarfodydd perthnasol a drefnwyd, neu yn achos cyfarfodydd â llai na mis o rybudd, cyn gynted â phosibl ar ôl trefnu’r cyfarfodydd.  Bydd hyn yn galluogi'r Pwyllgor(au) i fynegi barn ar y pwnc ac, os yw'n briodol, wahodd y Gweinidog cyfrifol i fod yn bresennol yng nghyfarfod y pwyllgor cyn y cyfarfod rhynglywodraethol.  Bydd rhybudd ysgrifenedig ymlaen llaw yn cynnwys eitemau ar yr agenda ac amlinelliad bras o’r materion allweddol i'w trafod, gan gydnabod y gall eitemau agenda, o dro i dro, gael eu marcio’n "breifat" i gydnabod yr angen am gyfrinachedd.

13. Nid yw paragraff 12 y Cytundeb hwn yn berthnasol mewn achosion lle mae presenoldeb Llywodraeth Cymru mewn cyfarfodydd perthnasol ar fyr rybudd. Mewn amgylchiadau o'r fath, rhaid darparu rhybudd ysgrifenedig, gan gynnwys eitemau ar yr agenda ac amlinelliad o’r materion allweddol i'w trafod cyn gynted â phosibl a chyn y cyfarfod. 

14. Ar ôl pob cyfarfod gweinidogol rhynglywodraethol o fewn cwmpas y Cytundeb hwn, bydd Llywodraeth Cymru yn darparu crynodeb ysgrifenedig o'r materion a drafodwyd yn y cyfarfod i’r Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol ac unrhyw bwyllgor perthnasol arall o'r Cynulliad Cenedlaethol cyn gynted ag y mae'n ymarferol ac, os yn bosibl, o fewn pythefnos.  Bydd crynodeb o'r fath yn cynnwys unrhyw ddatganiad ar y cyd a ryddhawyd ar ôl y cyfarfod, gwybodaeth yn ymwneud â phwy a oedd yn bresennol yn y cyfarfod, pryd y cynhaliwyd y cyfarfod, a lle bo’n briodol, yn amodol ar yr angen i barchu cyfrinachedd, arwydd o’r materion allweddol a chynnwys y trafodaethau ac amlinelliad o'r hyn a wnaed gan Lywodraeth Cymru.

15. Mae Llywodraeth Cymru hefyd yn cytuno i ddarparu i’r Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol ac unrhyw bwyllgor perthnasol arall o'r Cynulliad Cenedlaethol, destun unrhyw gytundebau rhynglywodraethol amlochrog neu ddwyochrog, memoranda cyd-ddealltwriaeth neu benderfyniadau eraill o fewn cwmpas y Cytundeb hwn.

16. Yn unol â darpariaethau paragraff 11 uchod, mewn amgylchiadau lle mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu sefydlu trefniadau newydd gyda'r nod o gyrraedd cytundeb rhynglywodraethol, bydd Llywodraeth Cymru yn rhoi rhybudd ymlaen llaw i Gynulliad Cenedlaethol Cymru o’i fwriad i wneud hynny. 

17. Mae Llywodraeth Cymru hefyd yn cytuno i gadw cofnod o'r holl gytundebau, concordatau, penderfyniadau a memoranda rhynglywodraethol ffurfiol perthnasol y mae Llywodraeth Cymru wedi cytuno arnynt ac i sicrhau bod y rhain ar gael yn rhwydd ar wefan Llywodraeth Cymru.

Adroddiad Blynyddol

18. Bydd Llywodraeth Cymru yn paratoi Adroddiad Blynyddol ar gysylltiadau rhynglywodraethol. Gosodir hwn gerbron y Cynulliad Cenedlaethol a chaiff ei gyflwyno i’r Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol.  Bydd yr adroddiad hwn yn crynhoi'r allbynnau allweddol o weithgarwch sy'n ddarostyngedig i ddarpariaethau'r cytundeb hwn, gan gynnwys unrhyw adroddiadau a gyhoeddir gan fforymau rhynglywodraethol perthnasol.  Bydd hefyd yn rhoi sylwadau ar yr ystod o waith cysylltiadau rhynglywodraethol ehangach a wnaed yn ystod y flwyddyn, gan gynnwys datrys anghydfodau.  Bydd yr adroddiad hwnnw hefyd yn darparu cymaint o wybodaeth ag sy'n ymarferol a phriodol am faterion y disgwylir iddynt ddod i'r amlwg yn ystod y flwyddyn sy'n dilyn.

Ymddangosiadau gerbron pwyllgorau

19. Bydd Gweinidogion Cymru yn mynd i gyfarfodydd pwyllgorau perthnasol y Cynulliad Cenedlaethol, fel sy'n briodol, pan fyddant yn cael eu gwahodd.

Monitro

20. Y pwyllgor arweiniol ar gyfer monitro gweithrediad y cytundeb hwn yw’r Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol.